YWS GWYNEDD
Sebona fo
Cychwynodd Yws Gwynedd fel prosiect unigol y canwr, Ywain Gwynedd, ond yn sydyn datblygodd i fod yn fwystfil oedd neb wedi'i ragweld. Wedi recordio sesiwn i BBC Radio Cymru yn wreiddiol, aeth ymlaen i recordio albym gyfa - Codi/\Cysgu - ac yna ffurfio band i'w deithio'n fyw. Yn ystod y cyfnod yma daeth Yws Gwynedd yn mwy o fand na phrosiect unigol a daeth yr aelodau at eu gilydd yn ystod haf 2015 i sgwennu ail albym - Anrheoli. Cafodd yr albym yna'i ryddhau yn 2016 ac aeth y band ymlaen i chwarae yn nifer o wyliau mwyaf Cymru yn cynnwys Tafwyl, Sesiwn Fawr, noson fythgofiadwy gyda gerddorfa'r Welsh Pops yn Eisteddfod Môn 2017 yn ogystal a thorri record y nos Sadwrn ganlynol am y gynulleidfa fwyaf i fynychu Maes B erioed.
Yws Gwynedd began as the singer's solo project, but suddenly developed into a beast that was never anticipated. Having originally recorded a session for BBC Radio Cymru, he went on to record an entire album - Codi/\Cysgu - and then formed a band to tour it live. During this time Yws Gwynedd became more of a band than a solo project and the members came together in the summer of 2015 to write a second album - Anrheoli. The album was released in 2016 and the band went on to play at many of Wales' biggest festivals including Tafwyl, Sesiwn Fawr, an unforgettable evening with the Welsh Pops orchestra at the Anglesey Eisteddfod 2017 as well as a breaking the record the following Saturday for the largest audience to ever attend Maes B.