Bywgraffiad
Y stori
Mae Betsan yn artist sy’n plethu hanesion personol â negeseuon pwerus. Dechreuodd ei thaith gerddorol yn 18 oed fel drymiwr mewn bandiau fel Alcatraz a Johnny Panic, cyn chwarae offerynnau taro a chanu cefndir gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc yng Ngogledd Cymru. Wedi dychwelyd i’r De, bu’n brif leisydd i’r band hip-hop Freshold ac yn canu gyda Genod Droog, ac yna’n brif leisydd y band ffync/soul Kookamunga. Ar hyn o bryd, hi yw prif gantores y band rockabilly Pwdin Reis. Rhyddhaodd ei EP unigol cyntaf, ‘Rhydd’, ar Recordiau Côsh ym mis Ionawr 2025: chwe chân sy’n adrodd penodau gwahanol o daith bywyd, o ddod i adnabod ei hun i ganfod rhyddid.Betsan is an artist known for blending personal stories with powerful messages. Her musical journey began at 18 as a drummer in bands like Alcatraz and Johnny Panic, before she played percussion and sang backing vocals with Daniel Lloyd and Mr Pinc in North Wales. Back in South Wales she became lead vocalist of the hip-hop band Freshold and sang with Genod Droog, then fronted the funk/soul band Kookamunga. She is currently lead singer of the rockabilly band Pwdin Reis. Her debut solo EP, ‘Rhydd’, came out on Recordiau Côsh in January 2025: six songs, each a different chapter of life’s journey, from getting to know herself to finding freedom.
Cerddoriaeth
Rhyddhadau

Brwydr Balchder2025

Rhydd2025

Hedd i’r Byd2024
Fideos
